App Realiti Estynedig (RE) Parc Gwledig Porthceri
Mae gan yr app lwybrau casglu wedi'u sbarduno gan GPS sy'n eich galluogi chi i grwydro’r parc a chasglu rhith-blanhigion a rhith-anifeiliaid ar hyd y daith wrth i chi gadw llygaid allan am rai go iawn.
Mae modd i chi gasglu mythau a chwedlau o bob rhan o’r parc wrth ddilyn y llwybr straeon a cheir llwybr casglu i blant o amgylch ardal y dolydd hefyd, sy’n eu galluogi nhw i gasglu ffeithiau am wahanol anifeiliaid wrth iddynt redeg o gwmpas.
Ar ôl i chi gasglu cymeriadau, straeon, anifeiliaid a phlanhigion y realiti estynedig, caiff y rhain eu cadw yn eich casgliad er mwyn i chi eu gweld unrhyw bryd yr hoffech.
