Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Mae’r traeth creigwely’n gyforiog o ffosiliau a phyllau creigiog llawn bywyd, a’r tu ôl iddo mae clogwyni garw a ffurfiannau craig trawiadol. Uwch ei ben, saif goleudy hynod Nash Point.
Mae Nash Point yn plesio ymwelwyr bob dydd, boed hynny wrth i chi grwydro Llwybr Arfordir Cymru ger llaw, mwynhau pice ar y maen neu hufen iâ yn y caffi, neu alw heibio i fwynhau’r golygfeydd godidog.
O dan y môr a’i donnau, mae cannoedd o longau a ddrylliwyd o gyfnod y Rhufeiniad ymlaen yn gorwedd. Un o’r rhai mwyaf adnabyddus oedd y ‘Frolic’, cwch pren stêm cynnar a ddrylliwyd ar y tywod yma yn 1831. Bu farw pob un o’r 78 o deithwyr ar ei fwrdd. Hon oedd y trychineb olaf cyn i oleudai Mash Point gael eu codi yn 1832.
Ceir nifer o hanesion lleol am smyglwyr a llongddryllwyr oedd yn denu llongau i’r creigiau, ymosod ar y criw ac ysbeilio’r cargo. Ar nosweithiau stormus, byddai llongddryllwyr yn clymu llusernau at y defaid oedd yn pori ar gopaon y clogwyni er mwyn creu’r argraff bod y llongau mewn dyfroedd diogel yn hytrach na ger glannau creigiog. O 1832 ymlaen, roedd lamp ddibynadwy’r goleudai’n arwydd cyson i forwyr i’w galluogi i osgoi’r creigiau cyfagos.
Mae Nash Point yn fan gwych i weld amrywiaeth cyffrous o fywyd gwyllt, yn cynnwys ysgall tiwbrosod sydd o dan fygythiad, moron a bresych gwyllt, adar drycin y graig a llamidyddion chwareus yn y môr ger y gefnen dywod. (Gwyliwch am y bwi sy’n dynodi ymyl dwyreiniol y gefnen dywod anferth hon.)