Dipio Dŵr
Mae dŵr yn gynefin cyffrous, a cheir amrywiaeth eang iawn o fywyd gwyllt mewn pyllau dŵr. Caiff y plant eu syfrdanu gan yr hyn gallant ddal mewn rhwyd yn ein pwll dipio – brithyllod y dom, ceffylau dŵr cefnwyn, nymffau gwas y neidr, sgorpionau dŵr, chwilod bwganod a mwy.
Ar ôl clywed eglurhad gan y Ceidwad, bydd y plant yn gweithio mewn grwpiau, yn dipio rhwyd yn eu tro a rhoi’r creaduriaid ar hambwrdd. Tua diwedd y sesiwn, bydd y Ceidwad yn eu helpu i adnabod yr hyn maen nhw wedi ei ddal, yn edrych ar y modd mae’r anifeiliaid wedi addasu i’w cynefin dyfrllyd, ac archwilio eu cadwyni bwyd a chylchred eu bywyd.
Lleoliad: Parc Gwledig Lynnoedd Cosmeston / Parc Gwledig Porthceri / Arfordir Treftadaeth Morgannwg
Hyd y gweithgaredd: 1 awr
Uchafswm maint y grŵp: 30