Cost of Living Support Icon

Llynnoedd a Pharc Gwledig Cosmeston

Mae amrywiaeth o gynefinoedd yn Cosmeston dros 100 hectar o dir a dŵr, ac mae rhai parthau wedi eu dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, sy’n amddiffyn y rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid prin ac amrywiol a geir yma.

 

Agorodd y parc i’r cyhoedd yn 1978 a’i ddyrchafu i statws Gwarchodfa Natur Leol ym mis Mai 2013. Heddiw, mae Llynnoedd a Pharc Gwledig Cosmeston yn noddfa i fywyd gwyllt lleol.

 

Lawrlwyth Map

 

Tocynnau Parcio Tymor 

Mae tocynnau tymor ar gael i ymwelwyr rheolaidd â'n parciau gwledig.  

  • £35 am 6 mis
  • £55 am 12 mis

Gellir defnyddio tocynnau tymor parciau gwledig ym mharciau gwledig Cosmeston a Phorthceri.

 

I wneud cais am docyn tymor, cysylltwch â:

  • 01446 700111

 

 

Cyfleusterau

  • Caffi yn cynnwys toiledau a chyfleusterau newid clytiau

  • Maes Chwarae Antur

  • Ardaloedd Picnic

  • Mae croeso i feiciau. Ni chaniateir beiciau ar y llwybrau pren.

  • Mae croeso i gŵn. Sicrhewch fod cŵn yn cael eu cadw dan reolaeth ac ar dennyn yn y maes parcio ac o amgylch y llyn dwyreiniol

  • Rhaid cael trwydded ar gyfer rhai ardaloedd.

  •  

  • Parcio am ddim
  • Ni chaniateir dronau ac awyrennau radio yn y parc am resymau iechyd a diogelwch.

  • Ardaloedd Cadwraeth  

  • Dim ond clybiau chwaraeon dŵr a chlybiau cychod model sydd wedi'u cofrestru â Chyngor Bro Morgannwg all logi’r Llyn

  • Gwaherddir nofio

  • Toiledau
  • Coetir
  • Llwybrau Cerdded

  •  

Horse riders

Reidio Ceffylau

Caniateir reidio ceffylau ar hyd y llwybr march milltir o hyd, ond, os hoffech chi reidio ar y prif lwybrau o gwmpas y llynnoedd i’r Dwyrain ac i’r Gorllewin, bydd angen i chi brynu trwydded o £30.00 y flwyddyn sydd ar gael gan y dderbynfa.

 

Cost Caniantad: £30.00

 

  • 029 2070 1678

 

Llynnoedd a Pharc Gwledig Cosmeston

Lavernock Road

Penarth

Bro Morgannwg

CF64 5UY

 

 

  • 029 2070 1678