Darllen ar y Cyd
Gall Darllen ar y Cyd eich helpu i ail-greu’r teimlad hwnnw o fwynhau neu ryfeddu at stori dda wedi’i hadrodd yn dda.
Mae grŵp Darllen ar y Cyd Llyfrgell y Barri’n cyfarfod am 1.00pm ar ddydd Gwener yn yr Ystafell Gymunedol fach ar y llawr cyntaf. Darperir lluniaeth ysgafn yn rhad ac am ddim.
Mae angen hoe rhag prysurdeb ein bywydau arnom ni i gyd – ennyd o ymlacio ac amser i ni’n hunain. Gellir sefydlu grwpiau Darllen ar y Cyd mewn amrywiaeth o lefydd – caffis, grwpiau mam a phlentyn, cartrefi gofal, syrjeris, hostelau, carchardai ac ie, hyd yn oed llyfrgelloedd!
Mae pob aelod o’r grŵp yn derbyn copi o’r testun dan sylw – cerdd neu stori fer, er enghraifft – ac mae un aelod o’r grŵp, yr arweinydd fel arfer, yn ei ddarllen yn uchel. Ceir llawer o’r lles o’r cyfle i drafod y darn wedyn o fewn grŵp diogel.
‘Mae’n ymwneud â chreu cyswllt emosiynol â’r llenyddiaeth,’meddai un darllenydd.
‘Do’n i ddim wedi darllen barddoniaeth ers dyddiau’r ysgol ond mae ei thrafod nawr yn help i fi ei deall yn well. Dwi’n dwlu gymaint arni nes ’mod i’n barddoni fy hun erbyn hyn,’ meddai un arall.
Mae tystiolaeth fod Darllen ar y Cyd yn medru bod yn llesol i bobl sy’n dioddef oherwydd profedigaeth, unigrwydd, iselder a’r sawl sydd yng nghyfnod cynnar dementia.