Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Cymorth ac adnoddau i bobl hŷn ym Mro Morgannwg.
Mae'r prosiect hwn yn cynnig i drigolion 60+ y Fro wyth sesiwn chwaraeon a gweithgarwch corfforol am ddim yn eu cymuned.
Mae'n bosib y byddwch yn gymwys i hawlio Credyd Pensiwn os ydych dros oedran pensiwn y wladwriaeth. Mae'n bosib y byddwch yn gymwys i gael ychwanegiad i’ch incwm wythnosol fel eich bod yn derbyn £182.60 yr wythnos (fel person sengl) a £278.70 (fel cwpl).
Helpu pobl hŷn i atgyweirio, addasu a chynnal eu cartrefi. Gydag ymweliadau cartref am ddim, asesiadau cartref, ac argymhellion ar wella'ch cartref.
Sut i gysylltu â Thîm Cyngor a Chymorth y Comisiynydd a dod o hyd i gymorth os ydych yn profi camdriniaeth.
Mae Age Connects yn cefnogi pobl hŷn unig ac agored i niwed ledled Caerdydd a'r Fro.
Gallech gael Taliad Costau Angladd (a elwir hefyd yn Daliad Angladd) os ydych yn cael budd-daliadau penodol ac angen help i dalu am angladd rydych ei drefnu.
Mae Dinas Powys Voluntary Concern yn cynnig trafnidiaeth gymunedol, gwasanaeth casglu presgripsiynau a chyfeillio dros y ffôn neu wyneb yn wyneb. Maent hefyd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau fel clwb cinio cawl, caffi cof, gardd les, clwb cymunedol yn y prynhawn, te mefus a digwyddiadau cerddoriaeth fyw.
Fel rhan o'n gwaith i gefnogi trigolion yn ystod yr argyfwng costau byw, rydym wedi datblygu cynllun Mannau Cynnes, Mae hwn yn rhwydwaith o fannau cymunedol sy'n cynnig lle cynnes a braf i bobl ddod at ei gilydd y gaeaf hwn heb unrhyw gost.
Age Cymru yw’r elusen genedlaethol ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru.
Mae 'Bore Coffi i Bobl 50+ Oed Llandochau' yn cynnig lluniaeth, cwisiau a gweithgareddau eraill am ddim o ddydd Mawrth 5 Medi 2023.
Lles drwy Wres yw ymgyrch genedlaethol Age Cymru i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r effeithiau negyddol y gall tywydd oer a thymheredd isel gael ar bobl hŷn. Ewch i’r wefan i weld beth allwch chi ei wneud i gadw’n ddiogel ac yn iach y gaeaf hwn:
Age Cymru - Beth yw Lles drwy Wres (ageuk.org.uk)
Mae gan lawer o’n trigolion hawl i sesiynau nofio am ddim yng nghanolfannau Legacy Leisure ym Mro Morgannwg. Mae hwn yn slot amser penodol i chi ddefnyddio'r pwll nofio ynddo, nid gwers nofio.
Mae Canolfannau Legacy Leisure yn cynnig sesiynau nofio am ddim i bobl dros 60 oed. Gallwch archebu'r sesiynau hyn ar-lein. Cofrestrwch ar gyfer y ‘Cynllun Actif yn y Dŵr’ wrth y dderbynfa i hawlio eich sesiynau am ddim. Gall pobl dros 60 oed nofio hefyd yn ystod unrhyw sesiwn arall am £2.70
Canolfan Hamdden y Barri - Dydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener 12.15 - 1pm
Canolfan Hamdden Penarth - Dydd Mawrth a dydd Iau 12.30 - 1.30pm
Canolfan Hamdden Llanilltud Fawr - Dydd Mawrth 2:15 - 3:15pm
Cyn-Filwyr
Gall cyn-filwyr nofio am ddim unrhyw bryd yng nghanolfan Hamdden y Barri. Dylech ddangos prawf o’ch cerdyn adnabod y Weinyddiaeth Amddiffyn wrth y dderbynfa i hawlio eich nofio am ddim.