Cost of Living Support Icon

Gwasanaethau Cyn Ymgeisio

Er mwyn sicrhau'r canlyniad gorau posibl ar y cam ymgeisio, mae ymgysylltu'n gynnar â'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn allweddol ac yng Nghyngor Bro Morgannwg rydym yn annog ein darpar ymgeiswyr i ymgysylltu'n gynnar.

Pre Application Guidance CymraegCanllawiau Cyn Cais

Cyfeiriwch at ein Nodyn Canllaw i gael trosolwg cynhwysfawr o'n Gwasanaethau Cyn Gwneud Cais.

 

Canllawiau Cyn Cais

 

I gael trosolwg cyffredinol o'n gwasanaeth, gan gynnwys manteision ymgymryd â chyn-ymgeisio, y gwahanol wasanaethau a gynigir a ffurflenni cais a thaflen ffioedd os gwelwch yn dda y gwasanaethau eraill a'r cyflwyniad cyn cais isod.

 

Nid yw cysylltu cyn ymgeisio yn hanfodol, ond fe'i hanogir gan ein bod yn gallu rhoi arweiniad i chi ar ba mor tebygol y caiff eich cais ei dderbyn. Mae manteision cael cyngor cyn ymgeisio yn cynnwys:

  • Gwneud y broses benderfynu yn gynt ac yn gwella ansawdd y datblygiad;

  • Helpu i roi dealltwriaeth ymlaen llaw o bolisïau ac ystyriaethau perthnasol eraill;

  • Nodi cyfyngiadau posibl ac a fydd angen mewnbwn arbenigol ar eich cais;

  • Cael barn gychwynnol Swyddog Cynllunio ar a fyddai eich cais yn debygol o gael ei dderbyn (yn amodol ar asesiad ffurfiol ar ôl cyflwyno’r cais cynllunio yn dilyn ymgynghoriad).

  • Arbed amser a chost i chi wrth osgoi archwilio cynlluniau annerbyniol.

 

Mae gwahanol fathau o wasanaethau cyn ymgeisio ar hyn o bryd ac mae'r rhain yn cynnwys:

 

 

Pre-Application Advice Cymraeg

 

Cynllunydd Dyletswydd (Cymhorthfa Gynllunio)

Gallwch gysylltu â'n Gwasanaeth Cynllunydd Dyletswydd am ddim dros y ffôn, o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10am - 12pm a 2pm - 4pm:

  • 01446 704681

 

Mae ein gwefan yn rhoi cyngor ar y gwasanaethau cyn ymgeisio a gynigiwn gan gynnwys dolenni i gyngor perthnasol gan Lywodraeth Cymru ar Hawliau Datblygu a Ganiateir. Fodd bynnag, os na allwch ddod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch am unrhyw ymholiadau sy'n gysylltiedig â chynllunio, efallai y bydd ein Cynllunydd Dyletswydd mewn sefyllfa i helpu.

 

Nodwch: Fod cyfyngiadau ar faint o wybodaeth a chyngor y gallwn eu cynnig dros y ffôn. Bydd swyddogion yn gwneud nodyn o'ch ymholiad ac yn ceisio eich tywys i'r gwasanaeth gorau sydd ar gael. 

  

Tick   Pethau y gallwn eich helpu gyda nhw:
  • Trosolwg o hawliau datblygu a ganiateir (ar gael drwy Lywodraeth Cymru) sy'n caniatáu datblygiadau ar raddfa fach heb fod angen caniatâd
  • Cyngor ar ba fath o wasanaethau cyn ymgeisio fyddai fwyaf addas ar gyfer eich datblygiad
  • Y broses yn gyffredinol ac amserlenni
  • Adroddiadau am ddatblygiad na chafwyd eu hawdurdodi
   Pethau na allwn eich helpu gyda nhw:
  • Y diweddaraf am geisiadau cynllunio sy’n mynd rhagddynt – i gael y wybodaeth ddiweddaraf am geisiadau cynllunio, cysylltwch â'r swyddog achos, y bydd ei fanylion cyswllt ar y llythyr rydych wedi'i dderbyn
  • Cadarnhad ffurfiol a oes angen caniatâd cynllunio (noder y bydd angen cais am Dystysgrif Cyfreithlondeb)
  • Ymholiadau ynglŷn â thirfeddiannaeth / ffiniau / materion waliau cydrannol
  • Caniatâd sy'n dod dan ddeddfwriaeth arall

 

Gwasanaeth Cyn Ymgeisio Uwch

Dyma'r ffordd a argymhellir i dderbyn cyngor cyn ymgeisio ar gyfer y rhan fwyaf o geisiadau cynllunio. Mae'n cynnwys arfarniad manwl gan Swyddogion Cynllunio a goruchwyliaeth gan Arweinydd y Tîm Cynllunio. Cewch gyfle i gwrdd â'r swyddog achos drwy gyfarfod rhithwir neu yn ein swyddfeydd/ar y safle (codir ffi ychwanegol am hyn) i drafod eich cynigion.

 

Ar gyfer cynigion cynllunio, gellir ymgynghori â rhanddeiliaid mewnol perthnasol hefyd a byddwch yn cael ymateb ysgrifenedig yn nodi'r ystyriaethau cynllunio allweddol gan gynnwys ystyriaethau perthnasol, lefel y wybodaeth sydd ei hangen i gefnogi'ch cais, unrhyw ofynion Adran 106 posibl a’r chanlyniad tebygol yn seiliedig ar yr hyn a gyflwynwyd.

 

Yn ogystal â chynigion cynllunio, mae'r tîm yn cynnig cyngor Treftadaeth, yn ogystal â chyngor mewn cysylltiad â cheisiadau Caniatâd Hysbysebu neu geisiadau cysylltiedig eraill.

Gwasanaeth Cyn Ymgeisio Statudol

Mae hwn yn arfarniad bwrdd gwaith sylfaenol o'ch cynnig gydag ymateb ysgrifenedig i'ch cais. Mae'r math hwn o wasanaeth cyn ymgeisio yn wasanaeth statudol a weithredir ledled Cymru a chaiff y ffi ei phennu gan Lywodraeth Cymru. Byddwch yn derbyn ymateb ar ffurf llythyr ysgrifenedig sy'n nodi gwybodaeth allweddol mewn cysylltiad â'ch cynnig gan gynnwys asesiad cychwynnol.

 

Sylwer: Nid yw'r math hwn o wasanaeth cyn ymgeisio yn cynnwys ymgynghori â rhanddeiliaid mewnol eraill, a gall eu safbwyntiau fod yn allweddol i ddeall a yw’r cais yn debygol o gael ei dderbyn. At hynny, nid yw'r gwasanaeth statudol yn cynnwys cyfle i gwrdd â'r swyddog achos y gellir ei gael dim ond trwy ddefnyddio'r "Gwasanaeth Cyn Ymgeisio Uwch" a nodir uchod.

Cynllunio, Paratoi ac Asesu (CPA)

Os bydd eich cynigion yn gymhleth ac ar raddfa fawr, neu os oes angen penderfyniadau ar geisiadau cynllunio o fewn amserlen ddiffiniedig, efallai yr hoffech ystyried ymrwymo i CPA gyda'r Awdurdod Cynllunio Lleol.

 

Yn ei hanfod, offeryn rheoli prosiectau yw CPA sy'n eich galluogi chi a ninnau i benderfynu ar amserlenni, camau gweithredu ac adnoddau perthnasol ar gyfer cynigion pwrpasol y cytunwyd arnynt gan y ddau barti fel rhan o'r broses cyn ymgeisio a/neu’r broses ymgeisio. Er nad yw'r broses hon yn gwarantu canlyniad llwyddiannus, mae'n rhoi sicrwydd dros amserlen y broses cyn ymgeisio a’r cais cynllunio gan gyfarfod ar adegau priodol drwy gydol y CPA. Gall ychwanegu sicrwydd at amserlen y datblygiad a gellir defnyddio adnoddau ychwanegol i gyflawni'r canlyniad.

Gwasanaethau Eraill

Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau eraill yn ogystal â’r uchod yn amodol ar dâl (gweler yr Atodlen Ffioedd am fwy o wybodaeth).

Cyflwyno eich Cais Cyn Ymgeisio

Ffurflenni Cais

Ochr yn ochr â'r cynlluniau perthnasol a'r wybodaeth ategol bydd angen i chi lenwi'r ffurflen briodol cyn ymgeisio.

 

Lawrlwythwch y ffurflen berthnasol, llenwch y wybodaeth a'i hanfon dros e-bost at planning@valeofglamorgan.gov.uk ynghyd â'ch cynlluniau perthnasol/gwybodaeth ategol a thalu'r ffi gysylltiedig. 

  

Ffurflen Wella Cyn Ymgeisio

Ffurflen Cyn Cyflwyno Cais Statudol 

 

Ffioedd

Lawrlwythwch yr Atodlen Ffioedd sy'n nodi'r ffi sy'n gysylltiedig â phob gwasanaeth.

 

FAtodlen Ffioedde

 

Talu eich Ffi Cyn Ymgeisio

Gellir talu ffioedd ar-lein trwy'r botwm isod. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis Incwm Arall o’r Rhestr Gwasanaeth, yna Cynllunio wedyn Ffi Cyn Ymgeisio.

 

Talwch ar-lein

 

 Gallwch hefyd dalu dros y ffôn, drwy gysylltu â'n Canolfan Alwadau ar:

  • 01446 700111