Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Fel rhiant neu ofalwr, efallai eich bod yn pryderu bod gan eich plentyn Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Mae gan blentyn neu berson ifanc ADY os:
ydyn nhw’n ei chael hi’n sylweddol anoddach dysgu na’r rhan fwyaf o blant o’r un oedran
oes ganddynt anabledd sy'n eu hatal neu eu rhwystro rhag defnyddio’r cyfleusterau addysgol a ddarperir yn gyffredinol i eraill o'r un oedran mewn ysgol prif ffrwd a gynhelir neu Sefydliad Addysg Bellach ac angen Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol (ADY).
Mae gwybodaeth a chanllawiau ar gyfer plant a phobl ifanc sydd angen cymorth ychwanegol i ddysgu isod.
Buom yn gweithio gydag awdurdodau lleol eraill yn rhanbarth Canol y De i gynhyrchu llyfryn gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ADY i rieni a gofalwyr:
Llyfryn Arweiniad ADY i rieni a gofalwyr
Darllenwch wybodaeth am y system ADY newydd a sut bydd hyn yn newid y ffordd y bydd ysgolion yn gweithio gyda chi i nodi a chefnogi anghenion plant a phobl ifanc.
Dysgwch beth i'w wneud os ydych chi'n meddwl bod angen cymorth ychwanegol ar blentyn neu berson ifanc i ddysgu. Gwybodaeth am bwy i siarad â nhw a sut i gael cefnogaeth.
Manylion y bobl allweddol sy'n ymwneud â chefnogaeth ADY ac y dylid cysylltu â nhw i gael cymorth.
Gwybodaeth am Ymarfer Sy'n Canolbwyntio ar Yr Unigolyn, Proffiliau Un Dudalen a Chynlluniau Datblygu Unigol (CDU)
Sut mae ADY yn newid i blant sy’n rhy ifanc i fynychu’r ysgol.
Beth i'w wneud os nad ydych yn hapus am benderfyniad a wnaed yn ystod y broses ADY.
Gwybodaeth am asiantaethau ac elusennau ategol sy'n gallu helpu gydag anghenion dysgu ychwanegol.
Os oes gennych ymholiadau ADY cysylltwch â:
Tîm ADY Anghenion Cymhleth
Cyngor Bro Morgannwg
Swyddfeydd Dinesig
Heol Holltwn
Y Barri
CF63 4RU
Mae'r Mynegai ar gyfer teuluoedd sydd â phlant 0-18 oed, sydd ag anabledd neu angen ychwanegol ac sy'n byw ym Mro Morgannwg.
Mae'n ffordd o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i deuluoedd am yr hyn sydd ar gael yn lleol ac yn genedlaethol.
Byddwch yn derbyn cylchlythyr bob tri mis, yn llawn gwybodaeth am ddigwyddiadau, gweithgareddau, cynlluniau chwarae a gwasanaethau, yn ogystal ag e-fwletinau rheolaidd.
Mae cofrestru'n rhad ac am ddim ac yn gwbl wirfoddol ac nid oes angen i chi fod ag anabledd sydd wedi'i ddiagnosio.
Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau gwe, yn ogystal â fideo cyflym a ffurflen gofrestru ar-lein.
Mynegai i Blant a Phobl Ifanc sydd ag Anableddau ac Anghenion Ychwanegol