Ymgynghoriad ar gynnig i gynyddu nifer y lleoedd ysgolion cyfrwng Cymraeg yn y Barri drwy ddarparu ar gyfer mwy o ddisgyblion yn Ysgol Gwaun y Nant, gan ei chynyddu o 210 o leoedd i 420 yn dechrau yn 2015
Mae dyletswydd gyfreithiol ar Gyngor Bro Morgannwg i gwrdd â galw rhieni am addysg Gymraeg. Bu cynnydd sylweddol yn y galw am leoedd cyfrwng Cymraeg ar draws y Fro ers 2009 ac arweiniodd hyn at agor dwy ysgol Gymraeg newydd ym mis Medi 2011 yn Llanilltud Fawr a'r Barri.
Mae’r twf mewn galw wedi parhau ers 2011 ar draws y Fro i’r graddau bod disgwyl y bydd diffyg lleoedd derbyn yn y Barri ar gyfer mis Medi 2014. Ar hyn o bryd mae pedair ysgol yn darparu addysg gynradd Gymraeg yn y Barri: Ysgol St Curig, Ysgol St Baruc, Ysgol Nant Talwg ac Ysgol Gwaun y Nant.
Mae'r Cyngor yn bwriadu cynyddu nifer y lleoedd mewn ysgolion Cymraeg yn y Barri drwy gynyddu'r lle yn Ysgol Gwaun y Nant o 210 i 420 o leoedd yn dechrau ym mis Medi 2015. Bydd lleoedd ar gyfer 60 o blant ym mhob grŵp oedran, mewn dau ddosbarth: ar hyn o bryd y mae 30 o leoedd. Bydd yr ysgol yn tyfu’n raddol gyda 60 o leoedd yn y dosbarth derbyn bob blwyddyn. Bydd y cynnig hwn yn rheoli’r galw cynyddol i gwrdd ag anghenion plant yn yr ardal yn y dyfodol.
Disgwylir y bydd y cynnydd mewn galw yn y Barri yn parhau ar y gyfradd bresennol hyd y gellir gweld a disgwylir y bydd diffyg lleoedd ar gyfer 2015 a’r tu hwnt. Bydd y cynnig yn ymateb i’r twf mewn galw gan rieni am addysg Gymraeg yn y Barri.
Bydd yr ymgynghoriad hwn yn rhedeg o 18 Tachwedd 2013 i 10 Ionawr 2014
Sut gallaf i gael mwy o wybodaeth?
Gallwch lawrlwytho copi o'r llythyr a'r ddogfen ymgynghorol yn manylu ar y cynnig ac anfon eich barn yn y ffyrdd canlynol:
- Llenwi’r profforma a geir o fewn y ddogfen ymgynghorol a’i dychwelyd i:
Ehangiad Addysg Gymraeg y Barri
Gwasanaethau Corfforaethol a Chwsmeriaid
Cyngor Bro Morgannwg
RHADBOST SWC2936
Y Barri CF63 4GZ
Os oes gennych ymholiad nad yw’r wybodaeth a ddarperir yn ymdrin â hi yna gallwch anfon e-bost at barrywelshmediumexp@valeofglamorgan.gov.uk, gallwch ffonio’r Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau ar 01446 709727 neu ysgrifennu at Ehangiad Addysg Gymraeg, Gwasanaethau Corfforaethol a Chwsmeriaid, Cyngor Bro Morgannwg, RHADBOST SWC2936, Y Barri CF63 4GZ.