Hafan >
Byw >
Ysgolion >
Consultation on a proposal to amalgamate Cadoxton Primary and Nursery Schools
Ysgolion Tregatwg
Ymgynghoriad ar y cynnig i ymestyn ystod oedran Ysgol Gynradd Tregatwg trwy uno ysgolion Cynradd a Meithrin Tregatwg.
Mae'r Cyngor yn cynnig uno ysgolion Meithrin a Chynradd Tregatwg o 01 Medi 2016 ymlaen a chreu un ysgol gynradd 3 i 11 oed ar safleoedd presennol Ysgol Feithrin Tregatwg ac Ysgol Gynradd Tregatwg. Trwy uno'r ddwy ysgol fe fydd Ysgol Meithrin Tregatwg yn cau a gaiff ysgol gynradd cyfnod sengl newydd eu sefydlu ar draws y ddau safle cyfagos, o dan un pennaeth ac un corff llywodraethu.
Mae'r Cyngor yn ystyried ei fod yn ddymunol i gynnwys dosbarth meithrin fel rhan o ysgol gynradd. Mae gan 14 o'r 15 ysgol gynradd yn Y Barri dosbarth miethrin yn rhan o'r ysgol. Byddai uno'r ddwy ysgol yn sicrhau eu fod yn unol â gweddill yr ysgolion cynradd yn y Barri. Bydd y plant sy'n mynychu'r dosbarth meithrin yn dod yn rhan o deulu'r ysgol gyfan o'u diwrnod cyntaf yn yr ysgol. Mae llawer o deuluoedd wedyn yn dewis gwneud cais i'r ysgol ar gyfer mynediad i mewn i'r dosbarthiadau derbyn.
Byddai'r cynnig yn gweld y ddau safle yn rhedeg fel un ysgol gynradd cyfnod sengl, sy'n darparu ar gyfer disgyblion o'r tymor ar ôl eu trydydd pen-blwydd hyd at un ar ddeg oed pan fyddant yn gadael i fynd i'r ysgol uwchradd.
Mae rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad a'r ddwy ysgol dan sylw ar gael yn y ddogfen ymgynghori.
Roedd yr ymgynghoriad yma wedi dod i ben ar 15 Chwefror.
Sut alla i gael gwybod mwy?
Gallwch lawrlwytho copi o'r llythyr, yr Asesiad Effaith Cymunedol a'r ddogfen ymgynghori s'yn manylu ar y cynnig, ac anfon eich barn yn y ffyrdd canlynol:
- Cwblhewch y ffurflen ymateb ar-lein.
- Mynychu'r sesiwn galw i mewn i siarad â ni yn bersonol. Mae hon yn ffordd dda i allu cael atebion i unrhyw gwestiynau sydd gan lawer am y cynigion. Byddwn yn dal i ofyn i chi lenwi ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad, fel y gallwn ni ond yn derbyn sylwadau ysgrifenedig
- Llenwch y ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad ac yn rhoi yn y blychau ymateb i'r ymgynghoriad a geir yn y derbynfeydd yr ysgolion yn y feithrinfa a chynradd
- Gwblhau a dychwelyd y ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad i'r cyfeiriad a roddir ar waelod y ffurflen ar ddiwedd y ddogfen hon a'i dychwelyd at:
Rhadbost RTGU-JGBH-YYJZ
Ymgynghoriad
Gwasanaethau Cwsmeriaid a Chorfforaethol
Cyngor Bro Morgannwg
Swyddfeydd Dinesig, Heol Holton
Y BARRI, CF63 4RU
Os oes gennych gwestiynau pellach cysylltwch â ni trwy ffon neu e-bost.
Adroddiad yr Ymgynghoriad
Mae'r awdurdod yn ddiolchgar i bawb a rhoddodd yr amser i ystyried ein cynnig ac i'r sawl a roddodd eu barn inni. Cafodd yr holl sylwadau eu hystyried gan Gabinet y Cyngor ar 7 Mawrth 2016.
Mae'r Adroddiad yr Ymgynghoriad ar gael i'w lawrlwytho neu mae gopïau caled o'r adroddiad ar gael ar gais drwy naill ai gysylltu â'r Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau ar 01446 709727 neu e-bostiwch eich cais i matthews@valeofglamorgan.gov.uk
Cyhoeddi Hysbysiad Statudol i gyfuno Ysgol Feithrin Tregatwg ac Ysgol Gynradd Tregatwg
Mae Cabinet y Cyngor wedi cytuno i gyhoeddi hysbysiad statudol i gyfuno Ysgol Feithrin Tregatwg ac Ysgol Gynradd Tregatwg. Bydd yr hysbysiad yn rhedeg o 11 Ebrill 2016 tan 9 Mai 2016.
Mae’r hysbysiad statudol ar gael i’w lawrlwytho neu mae copi caled ar gael ar alw, naill ai drwy gysylltu â’r Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau ar 01446 709727 neu drwy e-bostio’ch cais at: MMatthews@valeofglamorgan.gov.uk
Dylid anfon gwrthddadleuon at Jennifer Hill, Cyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau, Cyngor Bro Morgannwg, Provincial House, Kendrick Road, Y Barri CF62 8BF neu drwy e-bost at JMJones@valeofglamorgan.gov.uk
Penderfyniad
Ar 6 Mehefin 2016, roedd Cabinet Cyngor Bro Morgannwg wedi cymeradwyo'r cynnig i uno ysgolion Meithrin a Chynradd Tregatwg yn weithredol o 1 Medi 2016. Ystyriodd y Cabinet y cynnig yn ofalus, y gwrthwynebiadau statudol a gyflwynwyd, ac ymateb yr awdurdod lleol yn unol â gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion 2013.
Mae'r llythyr penderfyniad ac adroddiad ar y gwrthwynebiad ar gael i'w lawr lwytho neu mae copïau caled ar gael ar gais drwy naill ai gysylltu â'r Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau ar 01446 709727 neu drwy e-bostio eich cais i: mmatthews@valeofglamorgan.gov.uk