Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Rydym yn cefnogi pob disgybl i gael pob cyfle i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl, gan sicrhau bod manteision dwyieithrwydd yn cael eu hyrwyddo i bob rhiant a bod pob dysgwr yn cael cyfle i ddysgu Cymraeg.
Mae gan Fro Morgannwg 7 ysgol cyfrwng Cymraeg. I gael rhagor o wybodaeth am yr ysgolion ac i wneud cais am le mewn ysgol:
Os yw eich plentyn yn newydd i'r Gymraeg ac yn 5-11 oed, a ydych chi wedi ystyried ein Canolfan Gymraeg?
Mae ein Canolfan Gymraeg yn caniatáu i ddysgwyr oed cynradd gael eu trochi yn y Gymraeg i'w helpu i fod yn llwyddiannus yn eu taith addysg cyfrwng Cymraeg. Byddai taith eich plentyn yn dechrau gyda rhaglen gyffrous 12 wythnos yn ein Canolfan Gymraeg.
I gael rhagor o wybodaeth:
Gwybodaeth a chymorth:
Mae'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) yn esbonio ein cynllun deng mlynedd ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg ac iaith Gymraeg yn y Fro.
Rydym eisiau cynyddu nifer y plant ym Mlwyddyn 1 sy’n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg i 24% erbyn 2031-32. Mae hyn yn golygu y bydd angen i ni sicrhau bod tua 390 o leoedd Blwyddyn 1 ar gael erbyn 2031-32 yn seiliedig ar amcanestyniadau poblogaeth presennol.
Mwy o wybodaeth am y CSCA:
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am addysg cyfrwng Cymraeg ym Mro Morgannwg, mae croeso i chi gysylltu â:
Jeremy Morgan
Swyddog Addysg Gymraeg