Mae'r Cylch Ti a Fi yn rhoi cyfle i rieni/gofalwyr babanod/plant ifanc gyfarfod unwaith yr wythnos i gymdeithasu, rhannu profiadau am sgiliau rhianta, a chwarae gyda'i gilydd mewn awyrgylch anffurfiol Gymraeg. Yn y Cylch Ti a Fi gallwch fwynhau gwneud ffrindiau newydd, chwarae gyda theganau, dysgu canu caneuon Cymraeg syml a gwrando ar straeon Cymraeg gyda'ch plentyn.
Mae'r Cylch Meithrin yn gylch chwarae Cymraeg sy'n cynnig cyfle i'ch plentyn gymdeithasu a dysgu drwy chwarae o dan arweiniad staff proffesiynol a chymwysedig. Drwy fynychu'r Cylch Meithrin bydd eich plentyn yn dechrau ar ei daith i addysg Gymraeg a bydd yn datblygu'n unigolyn hyderus yn barod i gymryd y cam naturiol nesaf i addysg Gymraeg yn yr ysgol.
Cylchoedd Meithrin yn y Fro:
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Mudiad Meithrin
Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn gallu eich helpu i ddod o hyd i ofal plant yn Gymraeg a gwybodaeth am gymorth gyda chostau gofal plant. Gallwch chwilio'r Gwefan Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Cymru a hidlo eich chwiliad yn ôl iaith. Neu gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol.