Mae pedair elfen i lywodraethu a rheoli Cyngor Bro Morgannwg.
1. Y Cabinet, sy'n cynnwys yr Arweinydd a chwe Aelod arall o Ddeiliad Portffolio Cabinet sydd â chyfrifoldeb ar y cyd am benderfyniadau gweithredol y Cyngor ac sydd gyda'i gilydd yn ffurfio Cabinet y Cyngor.
2. Trosolwg a Craffu a wneir gan Aelodau anweithredol o'r Cyngor ac a reolir trwy'r Pwyllgorau Craffu.
3. Pwyllgorau Rheoleiddio sy'n cynnwys Pwyllgorau Cynllunio, Trwyddedu, Apeliadau a Phenodi.
4. Rheolaeth y Cyngor o ddydd i ddydd, sy'n gyfrifoldeb y Rheolwr Gyfarwyddwr a'r Cyfarwyddwyr sydd gyda'i gilydd yn ffurfio Tîm Rheoli Corfforaethol y Cyngor.
Mae aelodau nad ydyn nhw yn y Cabinet yn gyfrifol am gadw trosolwg o fusnes y Cyngor a chraffu ar feysydd o ddiddordeb neu bryder penodol. Mae eu rôl yn cynnwys dwyn y Cabinet i gyfrif a chynorthwyo i ddatblygu ac adolygu polisi'r Cyngor. Mae'r dasg olaf yn cynnwys edrych yn fanwl ar feysydd darparu gwasanaeth neu faterion sy'n peri pryder cyffredinol ac argymhellion cyflwyno i'r Cabinet neu i'r Cyngor cyfan - gallai hyn gynnwys awgrymiadau ar gyfer gwelliannau neu wahanol ffyrdd o wneud pethau. Gall aelodau wneud hyn o dan y gweithdrefnau Galw i Mewn neu Gais am Ystyriaeth arferol.
Mae'r broses Craffu yn darparu cyfleoedd i Aelodau'r Cyngor archwilio'r gwasanaethau a ddarperir, a gofyn cwestiynau ar sut y gwnaed penderfyniadau, ystyried a ellir rhoi gwelliannau gwasanaeth ar waith a gwneud argymhellion yn unol â hynny.