Cyflogaeth
Rydyn ni wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n cynrychioli’r gymuned rydyn ni’n ei gwasanaethu drwy gynyddu a datblygu nifer y bobl ag anabledd rydyn ni’n eu cyflogi, a’u cynorthwyo i gadw eu swyddi
Mae Canolfan Byd Gwaith wedi nodi ein bod yn cydymffurfio â gofynion eu hymgyrch i fod yn gadarnhaol wrth gyflogi pobl ag anabledd oherwydd ein bod wedi ymrwymo i’r isod hefyd:
- Cyfweld pob ymgeisydd ag anabledd sy’n boddhau’r meini prawf mwyaf sylfaenol ar gyfer swydd
- Gwneud pob ymdrech i sicrhau bod gweithwyr sy’n datblygu anabledd yn aros ym myd gwaith
- Sicrhau bod ein holl weithwyr yn cyrraedd lefel addas o ymwybyddiaeth o anabledd
- Sicrhau bod gweithdrefnau yn eu lle i drafod â gweithwyr ag anabledd beth all y ddau barti ei wneud i wneud yn siŵr fod y gweithwyr rheiny’n medru datblygu a defnyddio’u sgiliau
Byddwn ni’n adolygu’r ymrwymiadau hyn bob blwyddyn ac yn asesu’r hyn a gyflawnwyd, yn datblygu ffyrdd o’u gwella, a rhoi gwybod i’r gweithwyr a’r Ganolfan Byd Gwaith am ein cynnydd a’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Os ydych chi’n unigolyn ag anabledd ac rydych chi’n cyrraedd y rhestr fer am swydd, mae gennych hawl i’r isod:
- Ymweliad ymlaen llaw â’r gweithle
- Addasiadau rhesymol i’ch galluogi i gyfranogi’n llawn yn y cyfweliad