Mewn rhai achosion, gall trefnydd perfformiad sy'n cynnwys plant wneud cais am Gymeradwyaeth Grŵp o Bobl (BOPA). Mae BOPA yn cynnwys pob plentyn mewn un gymeradwyaeth, yn hytrach na gorfod cael trwyddedau unigol ar gyfer pob plentyn yn y perfformiad. Yr Awdurdod Lleol sy'n penderfynu a ddylid cyhoeddi BOPA yn ôl disgresiwn.
Gall unrhyw sefydliad wneud cais am BOPA, cyn belled na thelir unrhyw blentyn. Bydd angen sicrwydd ar Gyngor Bro Morgannwg bod gan y corff sy'n gofyn am y BOPA bolisïau clir, cadarn sydd wedi'u gwreiddio'n dda ar gyfer diogelu plant. Dylid gwneud ceisiadau am BOPA i'r Awdurdod Lleol lle mae'r perfformiad yn digwydd. Gall yr Awdurdod Lleol roi'r gymeradwyaeth hyd yn oed os nad yw'r plant sy'n cymryd rhan yn byw o fewn ei ffiniau.
Os caiff ei roi, mae BOPA yn dileu'r angen i wneud cais am drwydded unigol ar gyfer pob plentyn. Fe'i rhoddir i'r sefydliad sy'n gyfrifol am y perfformiad. Gall yr awdurdod sy’n ei gyflwyno osod amodau y mae'n teimlo bod eu hangen i sicrhau lles y plant dan sylw a gall ddirymu cymeradwyaeth os na chaiff y rhain eu bodloni.
Os yw plentyn i fod yn absennol o'r ysgol ni ellir dibynnu ar yr eithriad hwn (BOPA). Bydd angen trwydded.