Asesiadau risg tân
Mae gan y Cyngor asesiadau risg tân cyfredol ar gyfer pob fflat sydd â mynediad cymunedol, sy’n cynnwys archwiliadau misol o bob bloc. Yn sgil y digwyddiadau trychinebus yn Nhŵr Grenfell yn Llundain, rydyn ni wrthi’n adolygu ein hasesiadau risg tân. Ar y cam cynnar hwn nid yw’r ymchwiliad i fanylion llawn y digwyddiad yn glir, ond gall y Cyngor gadarnhau nad yw wedi defnyddio’r math hwn o system gladio.
Er nad oes gan y Cyngor unrhyw flociau uchel, rydyn ni’n ymwybodol o bryderon ein tenantiaid a’n preswylwyr, ac o ganlyniad rydyn ni wedi paratoi a bellach yn dechrau darparu rhaglen o sicrwydd i denantiaid o ran dull rhagweithiol y Cyngor o reoli diogelwch tân mewn perthynas â’n stoc. Caiff y rhaglen hon ei chwblhau wythnos nesaf.
Mae sawl ffynhonnell yn y cyfryngau yn dechrau gofyn cwestiynau am allu systemau cladin amrywiol i wrthsefyll tân. Hoffem gadarnhau i’n tenantiaid a’n preswylwyr fod y systemau sy’n cael eu gosod gan y Cyngor ar hyn o bryd yn bodloni ac yn rhagori ar y rheoliadau diogelwch tân.
Roedd gan yr eiddo yn Llundain banel poliwrethan â chroen alwminiwm wedi’i osod ar system wedi’i thracio, a greodd wagle rhwng y panel inswleiddio a wal allanol yr adeilad. Roedd y bwlch aer hwn yn darparu digon o aer i gynnal y tân ac yn gweithredu fel simnai i helpu’r tân i ledu ar draws yr adeilad.
Mae’r system sy’n cael ei defnyddio can y Cyngor yn osodiad ‘cladin caeedig’, sy’n golygu bod y deunydd inswleiddio gwrth-dân wedi’i osod yn uniongyrchol ar y gwaith brics ac wedi’i orchuddio â rendrad morter sy’n cwmpasu system inswleiddio gyfan y wal allanol (EWI). At hynny, mae gan ein cladin doriadau tân rhwng lloriau mewn unrhyw adeilad sydd â mwy na dau lawr. Mae hyn yn rhagori ar ofynion canllaw technegol y Gymdeithas Rendrad a Chladin Inswleiddio (INCA).
Yn olaf, i sicrhau bod ein systemau inswleiddio wedi’u gosod yn gywir, mae’r holl staff sy’n gosod yr inswleiddio wedi’u hyfforddi’n llawn a’u cymeradwyo gan y gweithgynhyrchwyr. Yna cânt eu harchwilio gan ein staff ein hunain a chynhelir archwiliad annibynnol hefyd gan gyrff trydydd parti sy’n arbenigo yn y system EWI.
Mae ein cyflenwyr systemau rendrad inswleiddiedig wedi egluro eu bod yn cwblhau profion tân manwl ar eu systemau EWI drwy’r BBA (Bwrdd Agrément Prydain) a’r BRE (Y Sefydliad Ymchwil Prydeinig) i sicrhau bod y systemau’n cyrraedd safonau uchaf y diwydiant ac yn bodloni rheoliadau adeiladu cyfredol o ran ymwrthedd i dân a lledaeniad fflamiau.