Cost of Living Support Icon

Cynllun Datblygu Lleol Newydd

Mae angen adolygu Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLlau) o leiaf bob pedair blynedd er mwyn sicrhau eu bod yn gyfredol.

 

Fe adolygom ni ein CDLl fis Mehefin 2021 a chyhoeddi Adroddiad Adolygu CDLl. Argymhellodd yr adroddiad y dylid paratoi CDLlN ar gyfer y cyfnod rhwng 2021 a 2036. Fe wnaethom hefyd gyhoeddi Cytundeb Cyflawni CDLlN sy'n nodi'r prosesau, yr adnoddau a'r amserlenni sy'n gysylltiedig â pharatoi'r CDLlN. Gallwch weld y dogfennau hyn ar-lein, neu weld copi caled yn y Swyddfeydd Dinesig neu llyfrgelloedd a reolir gan Fro Morgannwg.

 

Rydym nawr yn gweithio ar y CDLlN a fydd yn helpu i siapio Bro Morgannwg am y 15 mlynedd nesaf. Bydd yn ein helpu i benderfynu pa ddatblygiadau fydd ac na fydd yn cael eu caniatáu mewn gwahanol leoliadau, ac yn tynnu sylw at feysydd y mae angen i ni eu gwarchod.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllaw cymunedol i gynlluniau datblygu. Mae'r canllaw hwn yn cwmpasu'r system gynlluniau datblygu, sut mae cynlluniau'n cael eu paratoi, a sut y gallwch chi gymryd rhan yn y broses.

 

 

Gweithdai creu lleoedd

Ar 30 Medi 2024 cafodd Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol y CDLlN ei ystyried a'i gytuno mewn cyfarfod o'r Cyngor Llawn. Wrth gytuno ar yr Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol, cymeradwyodd y Cyngor Llawn y camau gweithredu a nodir yn y ddogfen a chymeradwyodd y Strategaeth a Ffefrir fel sail ar gyfer symud ymlaen i'r cam nesaf o baratoi CDLlN, y Cyfnod Adneuo.

 

Mae'r Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol yn cynnwys ymrwymiad i ofyn i hyrwyddwyr safleoedd ymgysylltu'n anffurfiol â chymunedau lleol ar greu lleoedd i lywio’r gwaith o uwch-gynllunio’r safleoedd hyn, a'r bwriad yw cyflawni'r rhain yn y misoedd nesaf.


Dylid pwysleisio mai diben yr ymarferion hyn yw peidio ag ailedrych ar yr egwyddor o ddatblygu'r safleoedd hyn. Yn hytrach, y diben yw cael mewnwelediad lleol i'r safleoedd a deall blaenoriaethau a phryderon amdanynt. Yn yr wybodaeth hon, lle y bo'n bosib, bydd hyrwyddwyr safleoedd yn gallu ymateb yn rhagweithiol i faterion allweddol.


Mae creu lleoedd yn golygu cydweithio ar draws sectorau a disgyblaethau i ystyried datblygu lleoedd unigryw a bywiog ar gyfer y dyfodol mewn modd cynhwysfawr. Rhan allweddol o greu lleoedd yw cynnwys y gymuned fel y gellir deall cyd-destun, cymeriad, treftadaeth a diwylliant y safle. Gall y pynciau y croesawir sylwadau arnynt gynnwys: y rhwydwaith priffyrdd lleol, darpariaeth mannau agored cyhoeddus, defnyddiau terfynol arfaethedig ar gyfer unedau defnydd cymysg, materion diwylliannol a threftadaeth lleol pwysig, gweithgareddau cymdeithasol lleol pwysig (e.e. clybiau chwaraeon ac ati) a risgiau a chyfleoedd amgylcheddol fel llifogydd ac ecoleg.


Hoffem roi rhybudd ymlaen llaw bod hyrwyddwyr safleoedd ar gyfer pob un o'r safleoedd allweddol yn bwriadu cynnal y digwyddiadau creu lleoedd hyn ar y dyddiadau canlynol:

 

  • Sain Tathan (SP4 KS4 Fferm yr Eglwys, Sain Tathan, SP4 KS5, tir i'r gorllewin o Sain Tathan) – Dydd Mercher 16 Hydref 2024 4pm – 8pm – Paul Lewis, Canolfan Gymunedol Sain Tathan. Bydd Ynni P-RC hefyd yn bresennol yn y sesiwn hon i drafod cynigion ar gyfer hen safle Gorsaf Bŵer Aberddawan.

    https://sites.savills.com/stathan/

  • Dinas Powys (SP4 KS2, tir i'r gogledd o Ddinas Powys) – Dydd Gwener 18 Hydref 2024 3pm - 7pm – Canolfan Gymunedol Murchfield.

    https://www.boyerplanning.co.uk/public-consultation/land-north-dinas-powys

  • Y Rhws (SP4 KS4, tir yn Readers Way, Y Rhws) – Dydd Mercher 23 Hydref 2024 3.30pm – 7pm – Canolfan Gymunedol Celtic Way

    https://pipcole.co.uk/

  • Y Barri (SP4 KS1, tir yng ngogledd-ddwyrain y Barri) – Dyddiad ac amser i'w cadarnhau

Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei chadw ar wefannau hyrwyddwr y safle allweddol a bydd dolen i hyn ar gael ar y wefan hon o ddyddiad y digwyddiad ac am gyfnod o bythefnos wedi hynny. Gellir gwneud sylwadau gan ddefnyddio'r manylion ar y dolenni gwe uchod.

 

Fel y nodir yn y Cytundeb Cyflawni, bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol nesaf ar y Cynllun ar Adnau, ac ar hyn o bryd mae disgwyl i hyn ddigwydd yn gynnar y flwyddyn nesaf.

 

Cofrestru ar gyfer diweddariadau ar y CDLlN

I dderbyn diweddariadau CDLlN a manylion yr ymgynghoriadau presennol, cofrestrwch isod:

 

Cofrestru ar gyfer diweddariadau ar y CDLlN

 

Bydd yr holl fanylion a roddir yn cael eu cadw ar ein cronfa ddata ymgynghori gydol y broses o baratoi'r cynllun.

 

Fodd bynnag, caiff unrhyw wybodaeth a roddir ei chadw'n ddiogel a'i chadw yn unol â pholisi cadw data Cyngor Bro Morgannwg oni bai bod angen ei chadw dan sail gyfreithlon arall. Gweld Polisi Preifatrwydd Bro Morgannwg. Mae copïau papur o'r Polisi Preifatrwydd hefyd ar gael ar gais.

 

I ddad-danysgrifio e-bostiwch ldp@valeofglamorgan.gov.uk.