Cost of Living Support Icon

Cwynion Ysgol

 

Gwybodaeth ddefnyddiol i rieni a gofalwyr 

 

Mae Adran 29 o Ddeddf Addysg 2002 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu pob ysgol a gynhelir yng Nghymru sefydlu gweithdrefnau ar gyfer delio â chwynion ac i roi cyhoeddusrwydd i weithdrefnau o'r fath.

 

Mae gen i bryder neu gŵyn am ysgol fy mhlentyn.

 

Ceisiwch siarad neu gwrdd â staff yr ysgol bob amser i ddatrys eich pryder CYN cyflwyno llythyr ffurfiol o gŵyn. Cyfeirir at hyn yn aml fel Cam A o broses gwyno.  Efallai eich bod eisoes yn gwybod gyda phwy i siarad, ond os na, gofynnwch i rywun yn swyddfa'r ysgol.  Byddant yn gallu eich cyfeirio at y person cywir. 

 

Mae'n syniad da holi, ffonio neu anfon e-bost i weld a allwch drefnu amser penodol i ddod i mewn a chael sgwrs neu siarad ar y ffôn. 

Mae hyn yn ddefnyddiol i'r staff.  Os ydyn nhw'n gwybod pam rydych chi'n dod i mewn, gallant sicrhau bod ganddynt unrhyw wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn barod.  Fel hyn, gallant neilltuo amser i wrando ar eich pryder heb rieni / gofalwyr a phlant eraill o gwmpas. Y sgwrs sy’n bwysig, a phrin yw’r achosion na ellir datrys pethau trwy siarad â staff yr ysgol yn uniongyrchol. Mae hon yn ffordd dda o ddatrys y rhan fwyaf o faterion a byddai ysgolion yn disgwyl i chi wneud hyn o fewn 10 diwrnod i unrhyw ddigwyddiad.

 

DS:  Os oes gennych bryder diogelu brys am blentyn neu berson ifanc, dylech ofyn am fanylion cyswllt swyddog diogelu'r ysgol, a elwir hefyd yn SDD (Swyddog Diogelu Dynodedig). Dylech rannu eich pryder gyda’r person hwn yn uniongyrchol.

 

 

 

Cwynion Ysgol – Cwestiynau Cyffredin

 

  • Rwyf wedi siarad ag aelod o staff ac nid yw fy mater neu bryder wedi’i d(d)atrys o hyd - beth allaf ei wneud nesaf?

    Os ydych chi dal yn bryderus, gofynnwch am gopi o bolisi cwynion yr ysgol a dilyn hwn.  Bydd pob polisi cwynion yn gofyn i chi anfon eich pryder at y Pennaeth neu berson a enwir sy'n delio â chwynion. Weithiau bydd aelod o’r UDA (Uwch Dîm Arwain) yn delio â chwyn yn y lle cyntaf (er enghraifft os yw'n ysgol uwchradd).

    Gelwir hyn yn aml yn Cam B mewn proses gwyno. Gwiriwch bolisi cwynion eich ysgol chi i weld at bwy y dylech gyfeirio'ch cwyn. Mae gan y rhan fwyaf o ysgolion gopi ar eu gwefan, ond gallwch ofyn am gopi gan rywun o swyddfa'r ysgol hefyd.

  •  Sut ddylwn i ysgrifennu llythyr o gŵyn neu e-bost? 

    Ceisiwch ei gadw'n fyr.  Mae tudalennau o wybodaeth yn golygu y gall fod yn anodd i'r ysgol ddeall y materion allweddol yr hoffech iddynt eu deall. Ond beth os oes gennych lawer o ddigwyddiadau llai yr hoffech ddweud wrth yr ysgol amdanynt sydd wedi cyfrannu at fater ehangach?  Yn yr achos hwn, gallai fod yn well eu rhestru i gyd ar dudalen ar wahân a'i hatodi i'ch prif lythyr.

     

    Mae hefyd yn bwysig dweud wrth yr ysgol y canlyniad yr hoffech o ran eich cwyn. Byddwch yn realistig. Mae'n annhebygol y bydd staff yn cael eu diswyddo o ganlyniad. Mae hefyd yn bwysig ceisio gofyn am ganlyniad sy'n golygu y gallwch barhau i weithio gyda'r ysgol mewn ffordd gadarnhaol am yr hyn a allai fod yn flynyddoedd i ddod!

    Drwy ddefnyddio'r dull hwn, bydd yn helpu'r ysgol i ddeall eich cwyn. Yna gallant weithio gyda chi er budd gorau'ch plentyn / plant i ddatrys eich pryderon.

    Am help i ysgrifennu llythyr - gweler ein templed llythyr o gŵyn isod 

     

     

     

     

     

     

     

     

     

     

     

  •  Beth os ydw i eisiau gwneud cwyn am y pennaeth? - NEU rwyf wedi codi fy nghwyn gyda'r pennaeth, ond nid wyf yn teimlo bod fy nghwyn wedi ei datrys o hyd? 
     

    Dylid cyfeirio'r pryder neu'r gŵyn at gadeirydd y llywodraethwyr.  Bydd yn cynnal yr ymchwiliad neu gall ei ddirprwyo i lywodraethwr arall. Bydd Cam B ymlaen o’r weithdrefn gwyno yn berthnasol.

  •  Amgylchiadau Arbennig a Chwynion Cyfnod C
     

    Os yw eich cwyn yn ymwneud â:

     

     

    Llywodraethwr neu grŵp o lywodraethwyr:

    • Cyfeirir y pryder neu'r gŵyn at gadeirydd y llywodraethwyr i’w (h)ymchwilio.  Fel arall, gall y cadeirydd ddirprwyo'r mater i lywodraethwr arall i'w ymchwilio.  Bydd Cam B ymlaen o’r weithdrefn gwyno yn berthnasol.

    Cadeirydd y llywodraethwyr neu'r pennaeth a chadeirydd y llywodraethwyr:

    • Bydd is-gadeirydd y llywodraethwyr yn cael gwybod a bydd yn ymchwilio i’r mater neu gall ei ddirprwyo i lywodraethwr arall.  Bydd Cam B ymlaen o’r weithdrefn gwyno yn berthnasol.

    Cadeirydd y llywodraethwyr ac is-gadeirydd y llywodraethwyr:

    • Bydd y gŵyn yn cael ei chyfeirio at glerc y corff llywodraethu a fydd yn hysbysu cadeirydd y pwyllgor cwynion.  Yna bydd Cam C y weithdrefn gwyno yn berthnasol.

    Y corff llywodraethu cyfan:

    • Bydd y gŵyn yn cael ei chyfeirio at glerc y corff llywodraethu a fydd yn hysbysu'r pennaeth, cadeirydd y llywodraethwyr, yr awdurdod lleol a, lle bo'n briodol, yr awdurdod esgobaethol.
    • Bydd yr awdurdodau’n cytuno ar drefniadau gyda'r corff llywodraethu ar gyfer ymchwiliad annibynnol ac yn ystyried y gŵyn.

     

    Cwynion Cam 2

     

    Cwyn Cam C yw pan fydd y corff llywodraethu yn dewis pwyllgor i ystyried cwyn ffurfiol. Cyn iddynt wneud hynny, byddant yn gwirio ac yn sicrhau bod y gŵyn wedi'i hystyried yng Nghyfnod A a B, oni bai bod amgylchiadau eithriadol dros beidio â gwneud hynny.

     

    Mae cwynion Cyfnod C yn hynod brin. Rhaid i'r pwyllgor corff llywodraethu ystyried y gŵyn a gwneud penderfyniad ynghylch a ddylid ei chadarnhau neu ei diystyru. Mae eu penderfyniad yn derfynol, ac nid oes hawl apelio yn dilyn Cam C.

     

     

    Gall y person sydd wedi gwneud y gŵyn yng Nghyfnod C ofyn i'r Awdurdod Lleol neu'r Esgobaeth adolygu'r modd y mae'r gŵyn wedi ei thrin i sicrhau bod yr holl weithdrefnau wedi'u dilyn yn briodol - ond nid ydynt yn gallu newid y penderfyniad.

  •  Beth alla i ei ddisgwyl gan yr ysgol neu'r corff llywodraethu os byddaf yn gwneud cwyn?

    Dylech ddisgwyl i'ch cwyn gael ei thrin yn deg, yn agored a heb ragfarn.  Dylid ymdrin â'ch cwyn yn sensitif ac yn deg ac o fewn yr amserlenni a nodir ym mholisi cwynion yr ysgol.

    Mae'n ofyniad cyfreithiol bod rhaid i bob ysgol gael gweithdrefnau cwyno.  RHAID i'r ysgol ystyried pob cwyn ysgol gan ddefnyddio'r gweithdrefnau hynny. Yr unig eithriad yw os oes angen ystyried mater o dan wahanol weithdrefnau. Er enghraifft, os oes pryder Diogelu yn cael ei godi.

  •  Beth mae'r ysgol neu'r corff llywodraethu yn ei ddisgwyl gan rieni a gofalwyr pan fydd ganddynt bryder neu gŵyn? 

    Mae ysgolion yn disgwyl i rieni a gofalwyr ddilyn y weithdrefn gwyno cyn belled ag y bo modd.

    Ni fydd ysgolion yn goddef ymddygiad ymosodol, difrïol, neu afresymol. Ni fyddant ychwaith yn gallu dioddef cwynion parhaus am yr un mater neu gwynion blinderus. 

    Dyma pam ei bod mor bwysig nodi'ch pryderon a'r canlyniad(au) yr hoffech cyn gynted â phosibl.

    Fel hyn, mae'n eich atal chi a'r staff rhag treulio llawer iawn o amser yn delio â mater, a allai fod wedi'i ddatrys yn gynt o lawer.

    Ar bob adeg, waeth pa mor ofidus ydych chi, rhaid trin staff yr ysgol gyda chwrteisi a pharch.  Rydym yn disgwyl yr un peth o ran rhieni a gofalwyr.

    Mae hefyd yn bwysig cydnabod y cyfyngiadau amser sydd ar ysgolion.  Dylid caniatáu amser rhesymol i ysgolion ymateb i bryder neu gŵyn. Ar ddiwedd y dydd, mae'r staff yno i addysgu disgyblion, ac mae angen eu cefnogi i allu cyflawni'r rôl hon.

    Yn olaf, dylai rhieni bob amser ddefnyddio camau cywir y weithdrefn gwyno.

    Os bydd rhiant neu ofalwr yn neidio'n syth i gam C (e.e. drwy gysylltu â'r corff llywodraethu), gofynnir iddo ddychwelyd i Gam A neu B yn y lle cyntaf. Oni bai bod eithriad yn berthnasol (gweler polisi cwynion eich ysgol chi am ragor o wybodaeth)

  •  Rwy'n teimlo'n ofidus a/neu'n flin iawn am yr hyn sydd wedi digwydd. Awgrymiadau defnyddiol, meddyliau a chyngor. 
    • Ceisiwch beidio â chynhyrfu.  Bydd colli eich tymer yn gwneud y sefyllfa'n fwy heriol i bawb.
    • Cyn cysylltu â'r ysgol, meddyliwch.  Mae'n hawdd codi'r ffôn neu anfon e-bost pan fyddwch wedi cynhyrfu. Ysgrifennwch yr e-bost os ydych chi'n flin, ond yn hytrach na'i anfon cadwch e’ fel drafft gan fynd yn ôl ato a'i ddarllen pan fyddwch chi wedi cael amser i feddwl.
    • Er enghraifft, gallech ddod o hyd i amser tawel i eistedd i lawr a siarad â'ch plentyn i gael fersiwn o’r digwyddiadau ganddo ef/hi.  I blant iau, siaradwch am yr ysgol drwy ofyn iddynt sut beth yw diwrnod da yn yr ysgol, a sut beth yw diwrnod gwael.  Gyda phobl ifanc yn eu harddegau, gofynnwch iddyn nhw ddweud wrthych chi beth sydd wedi digwydd. Gofynnwch gwestiynau fel; beth ddigwyddodd nesaf? beth maen nhw'n meddwl ddylai fod wedi digwydd? beth wnaethon nhw? pwy oedd yno? Beth maen nhw'n meddwl y dylen nhw fod wedi'i wneud? A fydden nhw wedi gwneud unrhyw beth yn wahanol? ac unrhyw gwestiynau eraill perthnasol.  Cymerwch nodiadau, yn barod i gyfeirio atynt pan fyddwch yn siarad â'r staff.   
    • Mae'n anodd ond ceisiwch beidio â bod yn negyddol na gwneud sylwadau difrïol am staff neu'r ysgol o flaen eich plentyn.  Mae hyn yn cynnwys rhoi sylwadau ar yr hyn rydych chi'n meddwl y dylai'r staff, neu'r ysgol fod wedi'i wneud, neu na ddylai'r ysgol fod wedi'i wneud.  Gall hyn effeithio ar blant iau, a allai wedyn deimlo'n ansicr ac yn llai hyderus o amgylch staff y gallech fod wedi bod yn negyddol iawn amdanynt gartref. Gyda phlant hŷn, gall greu anawsterau o ran y berthynas rhwng athro a disgybl. Gallai'r ddwy sefyllfa effeithio ar addysg eich plentyn mewn ffordd negyddol.
    • Byddwch yn barchus tuag at staff yr ysgol. Efallai na fyddant yn ymwybodol eto o'r mater rydych chi'n ei godi neu efallai fod ganddyn nhw bersbectif gwahanol iawn ar y digwyddiadau. Mae angen iddynt gael cyfle i ystyried yr holl ffeithiau yn gyntaf ac ymchwilio os oes angen. Bydd staff yn gwerthfawrogi cael cyfle i geisio datrys pethau'n anffurfiol. 
    • Ceisiwch beidio â chanolbwyntio ar brofi pwy wnaeth beth a phryd.  Yn hytrach, ceisiwch feddwl am ffyrdd y gallwch weithio gyda'r ysgol i wella'r sefyllfa.  Chwiliwch am ffyrdd y gallwch weithio gyda'ch gilydd lle rydych chi i gyd yn rhoi eich plentyn neu'ch plant wrth wraidd y mater.  Gofynnwch i'r ysgol ymuno â chi i symud ymlaen.  Gallai hyn fod ar ffurf gwiriadau rheolaidd yn dilyn y pryder yr ydych wedi'i godi. Neu gallai fod drwy newid y ffordd y maent yn gwneud rhywbeth a rhoi diweddariad i chi. 
    • Os yw'n helpu gallwch baratoi ar gyfer cyfarfod drwy ysgrifennu nodiadau neu restr o bwyntiau. Peidiwch â bod ofn cyfeirio at y rhestr yn y cyfarfod neu dicio pethau i ffwrdd wrth i chi fynd fel nad ydych yn anghofio rhywbeth rydych chi eisiau ei ddweud.  
    • Dilynwch unrhyw gyfarfod gydag e-bost cyflym sy'n cofnodi'r camau y cytunwyd arnynt. Fel hyn mae pawb yn glir ynghylch y camau nesaf. Yn aml iawn, bydd ysgolion yn gwneud hyn ar ôl cyfarfod fel mater o gwrs, ond mae'n iawn i chi wneud hyn os dymunwch. Mae hefyd yn helpu i osgoi unrhyw gamddealltwriaeth. 
    • Peidiwch â phostio ar y cyfryngau cymdeithasol.  Mae'r ysgolion bob amser yn cael clywed am y peth.  Gall fod yn ofidus ac yn ddigalon iawn i staff nad ydynt wedi cael cyfle i ddelio â chwyn neu bryder yn y lle cyntaf.
    • Ceisiwch osgoi gwneud bygythiadau - mae hyn yn tueddu i greu rhwystrau yn hytrach na datrys sefyllfaoedd.
    • Peidiwch â thynnu'ch plentyn na'i symud yn sydyn i ysgol arall - ni fydd hyn yn effeithio ar yr ysgol ond mae bron bob amser yn cael effaith enfawr ar y plentyn / plant dan sylw.
  •  Rwyf eisiau siarad â rhywun yn yr Awdurdod Lleol am fy mhryder. Sut alla i wneud hyn? 

    Rydym yn gwybod bod eich perthynas ag ysgol eich plentyn yn rhan bwysig o'i fywyd a'ch un chi. Pan nad yw'n gweithio, gall effeithio ar bawb yn y teulu. 

    Gall gwneud cwyn beri gofid, yn enwedig os yw'r hyn sydd wedi digwydd wedi effeithio arnoch chi, eich plentyn neu'ch teulu.

    Rydym yn deall y gall fod yn bryderus iawn.

    Os ydych chi eisiau cael sgwrs am bethau, gallwch chi gysylltu ag Uwch Swyddog Cymorth Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.

    Ni all y tîm cymorth llywodraethwyr ddelio â'ch cwyn nac ymchwilio iddo. Ond gan eu bod ar wahân, yn ddiduedd ac yn annibynnol ar yr ysgol, gallant wneud y canlynol:

    • Siarad am yr hyn sydd wedi digwydd, a'ch helpu i wneud synnwyr o'r cyfan
    • Eich helpu i weithio allan lle rydych yn y broses gwynion a'r camau nesaf.
    • Eich helpu i gynnal perthynas gadarnhaol ag ysgol eich plentyn wrth geisio datrys problemau.
    • Eich helpu i ysgrifennu llythyr neu e-bost yn amlinellu eich pryderon.
    • Gyda'ch caniatâd, cysylltu â'r ysgol ar eich rhan i egluro'ch pryderon a gofyn iddynt gysylltu â chi *
    • Rhannu gwybodaeth ddefnyddiol gyda chi a allai fod o gymorth wrth godi eich pryderon yn ogystal â'ch gwneud yn ymwybodol o'ch hawliau a'ch dewisiadau.
    • Eich cyfeirio at bobl eraill a allai fod o gymorth. Efallai eu bod yn staff sy'n gweithio yn yr Awdurdod Lleol**, neu sefydliadau a gwasanaethau eraill sy'n gallu helpu. 

     

    Sylwer:

    *Os byddwch yn cysylltu â Chymorth Llywodraethwyr, gwneir pob ymdrech i gadw'ch cwyn / pryder yn gyfrinachol. Ond, mewn rhai amgylchiadau, efallai y byddwn yn ystyried bod angen i ni roi gwybod i'r ysgol eich bod wedi bod mewn cysylltiad.  Os teimlwn fod hyn yn angenrheidiol, byddwn yn rhoi gwybod i chi ein bod yn bwriadu gwneud hyn a gyda phwy rydym yn bwriadu cysylltu â nhw a byddwn yn eich copïo i'r ohebiaeth.

    ** Gall cymorth llywodraethwyr a staff awdurdod lleol eich cynghori ar y broses gwyno, ond NI allant ystyried eich cwyn. Dim ond staff neu lywodraethwyr ysgol a all ystyried cwynion ysgol yn unol â'u gweithdrefnau gwyno.

    Byddwn bob amser yn rhannu unrhyw bryderon diogelu gyda'r person / unigolion priodol.

    Ffôn: 01446 709125

    E-bost: governors@valeofglamorgan.gov.uk

  •  Dolenni Defnyddiol 

     

  •  Beth os ydw i eisiau gwneud cwyn neu godi pryder am aelod o staff yr awdurdod lleol neu dîm staff penodol? 

     

     

    Mae hyn yn dibynnu ar natur eich cwyn neu bryder. Mae mwy o wybodaeth ar dudalen gwefan Bro Morgannwg Rydym yn gwrando ac yn dysgu, ond, os ydych chi am sgwrs am y peth neu os oes angen cymorth arnoch i benderfynu ble i gyfeirio'ch cwyn, gallwch gysylltu â'r Tîm Cefnogi Llywodraethwyr Ffôn: 01446 709125 neu e-bost: governors@valeofglamorgan.gov.uk 

TEMPLED LLYTHYR CWYN YMA

 

 

 

 

Cwynion gan ddysgwyr - Gwybodaeth i Blant a Phobl Ifanc

 

 

 

bigstock-Sad-boy-Depressed-teenager-at-30261389

 

Dylai ysgolion drin cwyn a wneir gan ddysgwr yr un mor ddifrifol ag un a wneir gan oedolyn a disgwylir y dylid gwrando ar bob plentyn a pherson ifanc a'i drin â pharch os yw’n dymuno codi pryder.

 

Dylai cwynion dysgwyr ddilyn yr un broses â chwynion ysgol.

 

Dylai dysgwyr deimlo'n ddiogel ac yn hapus yn yr ysgol, ond os ydych chi'n teimlo'n bryderus neu os oes gennych bryder, neu os ydych chi am wneud awgrym dylech ddweud wrth aelod o staff ar unwaith fel y gall edrych i mewn iddo.

 

Os nad ydych am godi'r pryder eich hun, gallwch ofyn i aelod o'r cyngor ysgol, aelod gwahanol o staff neu unrhyw un arall yr ydych yn ymddiried ynddo i'ch helpu.

 

Pan fyddwch yn codi pryder neu gŵyn; dylai'r ysgol;

  • Wrando ar bopeth rydych chi'n ei ddweud

  • Gofyn cwestiynau i helpu i wneud pethau'n glir

  • Eich trin chi'n deg

  • Caniatáu i rywun eich helpu, fel rhiant/gofalwr, ffrind, perthynas neu rywun arall

  • Rhoi gwybod i chi beth sy'n digwydd

Ni ddylai'r sawl sy'n gwrando ar eich cwyn ddweud wrth bobl eraill am yr hyn rydych chi'n ei ddweud, oni bai ei fod yn ymwneud â helpu i ddelio â'ch pryder. Weithiau, efallai y bydd angen iddynt ddweud wrth bobl eraill, er enghraifft os yw rhywun mewn perygl o gael ei frifo neu ei ofidio. Os bydd hyn yn digwydd, bydd rhywun yn ei egluro i chi.

 

Gall y tîm Cymorth i Lywodraethwyr yn Swyddfeydd Cyngor Bro Morgannwg eich helpu hefyd os ydych chi am godi pryder neu gŵyn. Gellir cysylltu â Fran, yr Uwch Swyddog Cefnogi Llywodraethwyr dros y ffôn ar 01446 709125 neu gallwch anfon e-bost drwy glicio ar y ddolen hon Cysylltu â'r Tîm Cymorth Llywodraethwyr.