Ysgol Rithwir y Fro
Mae Ysgol Rithwir y Fro ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yn bodoli i wella profiad addysgol a chanlyniadau'r plant hyn. Rydym yn rhan o'r Tîm Rhianta Corfforaethol ar gyfer plant mewn gofal.
Nid oes gan Ysgol Rithwir y Fro ei hadeilad ysgol ei hun, ond mae gennym dîm o staff sef y Tîm Cysylltiadau Dysgu (TCD). Mae ein disgyblion yn mynychu ysgolion neu leoliadau addysg go iawn. Rydym yn gweithio gyda'r staff yn y lleoliadau hynny i lunio cynllun gweithredu a chynnig cymorth a gallwn fonitro ac olrhain pa mor dda y mae ein plant a'n pobl ifanc yn dod ymlaen.
Pam mae angen ysgol rithwir?
Mae llawer o blant a phobl ifanc unigol sydd mewn gofal, neu a arferai dderbyn gofal, yn mwynhau ac yn gwneud yn dda yn yr ysgol. Fodd bynnag, gall rhai plant a phobl ifanc wynebu heriau ychwanegol yn eu haddysg. Mae gan yr Ysgol Rithwir Swyddog Arweiniol i gyflawni dyletswydd statudol yr awdurdod lleol i hyrwyddo cyflawniad addysgol ei blant sy'n derbyn gofal, a phlant a arferai dderbyn gofal, ble bynnag y maent yn byw neu'n cael eu haddysgu.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth agos â phlant a phobl ifanc, Gwasanaethau Plant, rhieni/gofalwyr ac ysgolion i ddiwallu anghenion unigol plant sy'n derbyn gofal fel eu bod yn gallu cael mynediad at addysg briodol a sicrhau'r canlyniadau addysgol gorau posib.
Rydym yn darparu pwynt cyswllt cyntaf a gwasanaeth cyswllt i ysgolion, gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol a’r rhai sy’n eu goruchwylio, a Swyddogion Adolygu Annibynnol ym Mro Morgannwg ac awdurdodau lleol eraill, gan sicrhau dull gweithredu amlasiantaeth cydgysylltiedig i roi Plant sy’n Derbyn Gofal ar ben y ffordd tuag at lwyddiant.
Rydym yn gweithio gyda phlant yn y Blynyddoedd Cynnar, Oedran Ysgol Statudol ac Ôl-16
Mae Ysgol Rithwir y Fro ar gyfer plant a phobl ifanc sydd:
- Dan ofal Bro Morgannwg ac sy’n cael eu haddysgu ym Mro Morgannwg
- Dan ofal Bro Morgannwg ac sy’n cael eu haddysgu mewn awdurdod lleol arall
- A arferai dderbyn gofal yn rhinwedd Gorchymyn Mabwysiadu, Gorchymyn Gwarchodaeth Arbennig neu Orchymyn Trefniant Plentyn
Plant a Phobl Ifanc
The Fostering Network
Adoption UK