Mynediad i Wasanaethau trwy Tîm Derbyn
O dro i dro gall fod angen blaenoriaethu ein gwasanaethau. Fodd bynnag, pan fo pryderon difrifol am blentyn, byddwn yn ymateb ar yr un diwrnod.
Ein bwriad yw cadw teuluoedd gyda’i gilydd pan fo'n bosibl, ac felly rydym yn gweithio'n agos gyda phlant, eu rhieni, perthnasau neu ofalwyr eraill a chyda sefydliadau eraill i ddod o hyd i’r ateb gorau. Bydd ein gwaith bob amser yn ystyried cefndir crefyddol, diwylliannol a chymdeithasol y
plentyn a’i deulu ac anghenion penodol yr unigolyn.