Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Mae Bro 2030, ein Cynllun ar gyfer 2025-30 yn cynrychioli pennod newydd a chyffrous i'r Cyngor ac i Fro Morgannwg. Mae Y Fro 2030 yn gynllun ar gyfer y dyfodol, ac rydym wedi ystyried sut mae angen i'r Cyngor newid er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau a darparu ar gyfer y Fro.
Dyma gyfle i ni adeiladu Cyngor y gallwn i gyd fod yn falch ohono. I lwyddo byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â gwahanol sefydliadau a'n cymunedau.
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymrwymo i fod yn lle croesawgar a chefnogol i bob preswylydd, ac mae'r Cyngor yn addo cydweithio â chymunedau a phartneriaid i gyflawni'r nodau hyn er budd pawb.
Rydym wedi nodi rhaglen waith uchelgeisiol i gyflawni ein gweledigaeth o Gymunedau Cryf â Dyfodol Disglair ac i gyflawni pum amcan:
Wrth greu'r cynllun hwn, rydym wedi gwrando ar ein trigolion, partneriaid ac eraill, wedi edrych ar sut rydyn ni'n perfformio, ac wedi nodi meysydd i’w gwella. Mae pob un o'r Amcanion hyn yn cynnwys cyfres o uchelgeisiau yr ydym am eu cyflawni erbyn 2030 a'r camau y byddwn yn eu cymryd i sicrhau hynny. Bydd ffocws mawr ar weithio mewn partneriaeth, a chyda’n cymunedau, byddwch yn creu Bro sy'n gwella lles cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn gweithio i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer Bro Morgannwg ar gael yn y cynllun llawn isod:
Fro 2030 - Cynllun Llawn
Fro 2030 - Crynodeb Gweithredol
Fro 2030 - Darllen Cyflym