Cost of Living Support Icon

Adnoddau Gweithgareddau

Cardiau gweithgareddau ac adnoddau i’w lawrlwytho am ddim i’ch helpu i’ch cadw chi a'ch teulu'n iach ac yn actif a chael hwyl.  Beth am roi cynnig arnyn nhw?

Peidiwch â gadael i ddiffyg offer eich atal rhag bod yn egnïol!  Gallwch ei fenthyg am ddim o nifer o lyfrgelloedd a/neu podiau bwyd ym Mro Morgannwg.  E-bostiwch sportsbookings@valeofglamorgan.gov.uk am fwy o wybodaeth.

 

Roced Fach

Mae'r adnodd Roced Fach wedi'i gynllunio i roi gwybodaeth i leoliadau gofal plant a theuluoedd am bwysigrwydd a manteision gweithgarwch corfforol yn ogystal â syniadau ar gyfer gweithgareddau.

 

Mae'r gweithgareddau'n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau sylfaenol megis cydbwysedd, cydsymud, symud ac ati gan nodi bod llawer o sgiliau'n cael eu datblygu drwy chwarae.

 

Cardiau Her y Roced Fach

Mae'r cardiau her yn darparu tystysgrif cyflawniad y gall plant ei lliwio ar ôl iddynt ymarfer neu feistroli sgil!

 

Pecyn Adnoddau Cartref i’r Teulu Y Fro ar symud

Mae'r pecyn hwn wedi'i gynllunio i roi gwybodaeth i deuluoedd ynghylch pam mae gweithgarwch corfforol mor bwysig drwy gydol plentyndod ac wrth ddod yn oedolion ac mae'n darparu dolenni at  lawer o weithgareddau rhithwir i ategu’r gweithgareddau yn y llyfryn.

 

Llyfrau Stori Llythrennedd Corfforol Mae Reggie'n mynd i'r Lleuad

Llyfrau straeon sy'n ymgorffori gweithgareddau llythrennedd corfforol i helpu plant o grwpiau anabledd penodol i ddatblygu eu sgiliau sylfaenol fel symud, cydbwysedd, cydsymud. Cliciwch y dolenni isod i fynd at y llyfrau.

 

Cardiau Gweithgareddau Iach, Actif ac yn y Cartref

Mae’r cardiau gweithgareddau hyn yn cynnig gweithgareddau am ddim / isel eu pris y gall plant a theuluoedd eu gwneud yn y cartref neu gerllaw.

 

Teithiau Cerdded Llesol 

Rydym wedi creu nifer o deithiau cerdded i’ch cadw chi a’ch teulu’n iach ac yn actif a chael hwyl. Beth am roi cynnig arnyn nhw?

 

Teithiau Cerdded Llesol

Adnodd Blynyddoedd Cynnar a Llyfryn Gweithgareddau Dysgu sut i Feicio

Adnoddau defnyddiol gan Blynyddoedd Cynnar Cymru sy’n cynnig syniadau symud a hefyd gan British Cycling sy’n cynnig sgiliau i’w hymarfer er mwyn dysgu sut i feicio. Er ei bod yn bwysig nodi bod y gweithgareddau'n cael eu harwain gan gam datblygiad y plentyn yn hytrach nag oedran y plentyn, maen nhw’n fwyaf addas ar gyfer plant dan 8 oed ar y cyfan.

 

 

Gwneud Eich Symudiad

Dylai gweithgaredd corfforol fod ar gyfer pawb ac unrhyw un. Yn Gwneud Eich Symudiad, rydym yn credu, beth bynnag fo siâp, maint, oedran neu allu, gallwch symud mewn ffordd sy’n gweithio i chi. I gael rhagor o wybodaeth ewch i Gwneud Eich Symudiad lle gallwch gwrdd â'u Hyrwyddwyr, lawrlwytho strategaethau ac adnoddau a dod o hyd i weithgareddau newydd. Neu gallwch gysylltu â'n harweinydd ar y prosiect Ben Davies-Thompson.