Appiau Cerdded Realiti Estynedig (RE)
Ffordd wych o annog aelodau iau eich teulu (a’r rhai ifanc eu hysbryd) i fynd ar daith allan i’r arfordir a chefn gwlad. Lawrlwythwch un o Appiau a gemau Realiti Estynedig y Fro sy’n dod â hanes yn fyw tra eich bod yn ymweld â’r safleoedd hyfryd ar draws y Fro.
Realiti Estynedig ym Mharc Romilly
Wrth fynd am dro, dysgwch am y llu o rywogaethau coed gwahanol y gellir eu gweld ym Mharc Romilly, Y Barri, gyda’n app llwybrau coed Realiti Estynedig (AR/RE) hwyliog. Dewiswch rhwng llwybr byr neu hir a dilynwch y map GPS i ddod o hyd i’r coed. Pan fyddwch yn cyrraedd coeden, chwiliwch am yr eicon AR crwn ar banel y goeden, tapiwch y botwm AR a phwyntiwch eich dyfais at y panel i gwrdd â Cyril y Wiwer mewn Realiti Estynedig a datgloi mwy am bob un o’r coed. Wrth i chi gasglu coed, gallwch chwarae’r gêm dal dail AR a storio popeth rydych chi wedi’i gasglu yn eich parc 3D eich hun.
RE ym Mharc Gwledig Porthceri
Mae gan Barc Porthceri gymaint i’w weld a’i wneud, a bydd yr app hwn yn eich galluogi i ddod â rhannau o’r parc yn fyw wrth i chi fynd allan i fforio. Mae gan yr app lwybrau casgladwy a sbardunir gan GPS sy’n eich galluogi i fforio yn y parc, gan gasglu planhigion ac anifeiliaid rhithwir ar hyd y ffordd tra eich bod yn cadw golwg am y rhai go iawn. Gallwch gasglu mythau a chwedlau o amgylch y parc gyda’r llwybr storïau ac mae llwybr casgladwy i blant o gwmpas ardal y ddôl hefyd sy’n eu galluogi i gasglu ffeithiau am anifeiliaid gwahanol tra eu bod yn rhedeg o gwmpas. Ar ôl i chi gasglu cymeriadau, storïau, anifeiliaid a phlanhigion y realiti estynedig, caiff y rhain eu cadw yn eich casgliad er mwyn i chi eu gweld unrhyw bryd a fynnoch.