Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Ein nod yw cynyddu nifer y bobl sy'n cymryd rhan mewn cyfleoedd chwaraeon a gweithgaredd corfforol i gynyddu eu hiechyd a'u lles, rydym yn arwain ar ddatblygu cynllun Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol y Fro, ac yn gweithio gydag ystod o bartneriaid i greu gweithgareddau newydd a datblygu presennol ar gyfer preswylwyr o bob oed. Ynghyd â'n partneriaid rydym yn trefnu ystod o ddigwyddiadau a gweithgareddau blasu ar adegau trwy gydol y flwyddyn. Mae hyn yn ein helpu i weithio tuag at weledigaeth y Fro o greu ‘cymunedau mwy egnïol ar gyfer dyfodol iachach’ a’r weledigaeth ar gyfer chwaraeon yng Nghymru lle ‘gall pawb gael mwynhad oes o chwaraeon’.
I ddarganfod mwy am ein prosiectau, digwyddiadau, gweithgareddau blasu neu i drafod prosiect yr hoffech ei ddatblygu, cysylltwch ag aelod o'n tîm neu e-bostiwch healthylivingteam@valeofglamorgan.gov.uk.
Gallwch hefyd gadw llygad ar ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i gael gwybodaeth am brosiectau, digwyddiadau, gweithgareddau blasu a chyfleoedd cyfredol.
Instagram - Valesportsteam1
You Tube - Vale Healthy Living Team
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae £30 miliwn yn cael ei godi bob wythnos ar gyfer achosion da.
Mae'r Loteri Genedlaethol wedi rhoi dros £377m i glybiau a phrosiectau chwaraeon yng Nghymru dros y 29 mlynedd diwethaf.
Edrychwch ar y fideo isod i weld rhai o'r prosiectau rydyn ni'n ymwneud â nhw.
Browser does not support script.