Ceisiadau Mawr
(10 neu fwy o anheddau, ardal safle o 0.5 hectar neu fwy, neu le llawr o fwy na 1000 metr sgwâr)
Ymgynghoriad Cyn Gwneud Cais
Rhaid i ddatblygwyr gyflwyno adroddiad Ymgynghori Cyn Gwneud Cais ar gyfer unrhyw ddatblygiad “mawr”.
Mae canllawiau manwl ar wefan Llywodraeth Cymru Adran 17 Deddf Gynllunio Cymraeg 2015
I gynorthwyo datblygwyr i gynnal ymgynghoriadau, mae rhestr o'r holl Gynghorau Tref a Chymuned ar gael yma, Aelodau Ward yma, ac Ymgynghorai Arbenigoligol yma.
Gall y Cyngor helpu datblygwyr i gadw gwybodaeth ar gyfer ei Ymgynghoriad Cyn Gwneud Cais os byddant yn gwneud cais ffurfiol am gyngor Cyn Gwneud Cais.
Hysbysiad Dechrau Datblygu
Pan fo datblygwr am ddechrau datblygiad mawr, rhaid iddo gwblhau a chyflwyno ffurflen 'Hysbysiad Dechrau Datblygu'.
Hefyd, rhaid arddangos hysbysiad safle a chynllun lleoliad yn y datblygiad o ddyddiad dechrau'r datblygiad.