Y Cyflenwad Tir Tai
Mae gofyn i ni sicrhau bod digon o dir ar gael, neu y daw digon o dir ar gael, i gynnal cyflenwad tir ar gyfer tai am bum mlynedd.
I ddangos ein bod yn gwneud hyn mae cyd-astudiaeth argaeledd tir ar gyfer tai (CAATT) yn cael ei baratoi pob blwyddyn. Gwneir yr astudiaeth hon ar y cyd â chynrychiolwyr cwmnïau adeiladu tai, darparwyr seilwaith a chyrff eraill megis cymdeithasau tai lleol.

