Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Gwirfoddolwyr yw llywodraethwyr, ac maent yn cydweithio’n glòs â Phenaethiaid a staff ysgolion fel rhan o’r strwythur arweinyddiaeth a rheoli cyffredinol. Mae corff y llywodraethwyr yn helpu i lywodraethu fframwaith yr ysgol, a’r Pennaeth sy’n gyfrifol am y gwaith rheoli bob dydd.
Ar y cyd, nhw sy’n gyfrifol am reoli cyllideb yr ysgol, recriwtio staff, meithrin cysylltiadau â rhieni a’r gymuned a hyrwyddo safonau uchel o gyrhaeddiad addysgiadol. Nod yr Uned Cefnogi Llywodraethwyr yw cydweithio â llywodraethwyr yn y Fro i gefnogi ac annog rheolaeth effeithlon, drwy ddarparu gwybodaeth, cyngor a hyfforddiant i ddiwallu anghenion y cyrff llywodraethu.
Cynhelir holl hyfforddiant llywodraethwyr yn rhithwir ar hyn o bryd ac mae manylion yr holl gyfleoedd sydd ar gael yn cael eu he-bostio’n uniongyrchol i bob llywodraethwr, a gellir eu gweld ar-lein:
Gellir cael manylion drwy e-bostio’r Uned Cymorth Llywodraethwyr yn governors@valeofglamorgan.gov.uk
Gwahoddir ceisiadau gan y rhai sy'n dymuno cael eu hystyried gan y Panel Cynghori priodol ar gyfer rolau gwag presennol Llywodraethwyr. Mae'r Cod Ymarfer ar Gysylltiadau AALl-Ysgol yn nodi y dylai llywodraethwyr ALl gael eu penodi ar sail y sgiliau a'r profiad y gallent eu cyfrannu at gorff llywodraethu ysgol.
Lleoedd gwag ar gyfer Llywodraethwyr ALI
Mae’r Uned Cefnogi Llywodraethwyr wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau o safon uchel sy’n gofalu am, ac yn cefnogi, anghenion datblygu llywodraethwyr y Fro ac yn galluogi cyrff llywodraethol i gyfrannu at wella’r ysgol i’w gallu eithaf.
Rydyn ni’n datblygu’n barhaus, ac rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i chi. Buasem yn croesawu unrhyw sylwadau, syniadau neu awgrymiadau sydd gennych a allai fod o help i ni wella ein gwasanaeth. Os hoffech chi dynnu sylw at unrhyw beth, croeso i chi gysylltu â ni.
Gallwch gysylltu a Chymorth i Lywodraethwyr ar 01446 709125/709107
governors@valeofglamorgan.gov.uk