Mae cyfleoedd dydd ar gael ym Mro Morgannwg mewn amrywiaeth o wahanol leoliadau ar gyfer pobl hŷn a all fyw gydag eiddilwch sy'n gysylltiedig ag oedran, salwch cronig, anabledd neu broblemau iechyd meddwl, gan gynnwys dementia.
Gall gwasanaethau dydd wella gallu parhaus unigolyn i fyw'n annibynnol gartref, drwy gynnig ysgogiad cymdeithasol, corfforol a meddyliol i'r rhai sy'n byw ar eu pennau eu hunain neu gyda theulu ac sy’n teimlo wedi’u hallgáu’n gymdeithasol Mae gofalwyr anffurfiol hefyd yn elwa'n aruthrol drwy gymryd seibiant o'u rôl gofalu:
New Horizons - Ar gyfer pobl ag anableddau corfforol
Rydym yn darparu cyfleoedd i bobl ag anabledd corfforol parhaol/arwyddocaol, 18-65 oed ac sy’n byw ym Mro Morgannwg. Mae Gorwelion Newydd yn rhan o Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bro Morgannwg:
Gwasanaethau Dydd Anableddau Dysgu
Rydyn ni’n cynnig cyfleoedd dydd ystyrlon i oedolion ag anableddau dysgu, sydd hefyd ag anghenion cymhleth.
Rydym yn gweithio o’r Barri ac yn cynnig cyfleoedd dydd o'n dwy ganolfan, yn ogystal â lleoliadau cymunedol amrywiol, yn gwasanaethu dinasyddion ledled y Fro.