Mae'n rhaid i awdurdod lleol ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth am wasanaethau cymorth fel y gall gofalwyr di-dâl ddod o hyd iddynt a'u cyrchu a, lle bo hynny'n briodol, rhoi cymorth i gael mynediad at y gwasanaethau hyn. Bydd y gwasanaeth hwn yn gweithredu fel pwynt mynediad cyntaf i ddarparu gwybodaeth i helpu pobl i ddeall sut mae'r system gofal a chymorth yn gweithredu yn eu hardal a'r mathau o wasanaeth, gan gynnwys gwasanaethau gofalwyr, sydd ar gael. Rhaid iddo hefyd gynnwys sut i gael mynediad at y gwasanaethau hyn a sut i godi pryderon am les pobl a allai ymddangos fel pe bai ganddynt anghenion gofal a chymorth, gan gynnwys gofalwyr.
Mae Dewis Cymru’n wefan sydd â’r nod o helpu pobl i gael gafael ar wasanaethau cymorth lleol a chenedlaethol yng Nghymru a dod o hyd i'r wybodaeth a'r cyngor sydd eu hangen arnynt i wella eu lles. Mae’n cynnig gwybodaeth i’ch helpu i feddwl am yr hyn sy’n bwysig i chi, yn ogystal â gwybodaeth am wasanaethau a phobl yn eich ardal a all fod o gymorth i chi gyda’r pethau sy’n bwysig i chi. www.Dewis.Cymru
Chwilio - Dewis Cymru
Mae Hyb Gofalwyr Di-dâl y Fro yn siop un stop ar gyfer gofalwyr di-dâl sy'n byw ym Mro Morgannwg. Mae'r gwasanaeth yn cynnig cymorth ymarferol ac emosiynol i ofalwyr di-dâl, gan helpu pobl i ddiogelu eu hiechyd a'u lles a deall eu rôl ofalu. Mae ein gweithwyr yn darparu clust i wrando a gallant roi gofalwyr mewn cysylltiad â gwasanaethau a chymorth yn yr ardal leol.
I wneud atgyfeiriad i Hyb Gofalwyr Di-dâl y Fro (gall hyn fod yn hunanatgyfeiriad neu drwy'r gwasanaethau cymdeithasol) cliciwch yma i lenwi'r ffurflen neu ffoniwch 02921 921024.
Gellir gweld staff y ganolfan hefyd mewn gwahanol leoliadau ledled y Fro, yn darparu gwasanaeth galw heibio. Gellir dod o hyd i fanylion lleoliadau ac amseroedd ar eu gwefan neu ar Facebook Neu ffoniwch nhw am fwy o wybodaeth.