Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Fe welwch chi fioamrywiaeth ym mhob man yn y Fro: mewn gerddi trefol a bocsys blodau, mewn coedwigoedd, wrth ymyl y ffordd, mewn cefn gwlad agored ac afonydd ac ar hyd yr arfordir.
Mae Bro Morgannwg yn cynnal amrywiaeth doreithiog o fywyd gwyllt: mae’r perthi, y coetiroedd, cymoedd yr afonydd a’r arfordir yn ffurfio ein tirwedd ac yn darparu ymborth a chynefin i famaliaid ac adar.
Mae blodau gwyllt a philipalod i’w gweld yn aml wrth ochr ein ffyrdd ac mewn dolydd. Mae sgwarnogod brown ac ehedyddion yn byw ar ein coetiroedd; mae dyfrgwn yn byw o’r golwg yn ein ffosydd dŵr, ac mae madfallod y dŵr ac amffibiaid eraill yn bridio yn ein pyllau a llynnoedd.
Mae’r cynllun hwn yn cydnabod amrywiaeth y planhigion a’r anifeiliaid a’u cynefinoedd, ac yn eu nodi fel blaenoriaethau lleol.
Caiff y cynllun ei redeg gan Bartneriaeth Bioamrywiaeth y Fro.
Mae sawl ffordd y gallwn ni helpu i warchod bioamrywiaeth yn y Fro, a gall pawb gymryd rhan.
Gall hyd yn oed newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr.
Helpwch ni i greu darlun o blanhigion ac anifeilaidd y Fro drwy anfon cofnod ohonynt at Ganolfan Cofnodion Bioamrywiaeth De-ddwyrain Cymru pan welwch chi nhw, neu drwy gysylltu â grwpiau cadwraeth lleol neu dîm Ecoleg y Cyngor.
Canolfan Cofnodion Bioamrywiaeth De-ddwyrain Cymru
Mae Cyngor bro Morgannwg yn aelod o Bartneriaeth Gweithredu yn erbyn Troseddau Bywyd Gwyllt. Mae’r Bartneriaeth yn casglu ynghyd nifer o sefydliadau sydd â diddordeb mewn gorfodaeth gyfreithlon ym maes bywyd gwyllt.
Troseddau yn erbyn Bywyd Gwyllt