Mae cael babi yn achlysur pwysig, ac mae’n naturiol i brofi amrywiaeth o emosiynau ac adweithiau yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd.
Gall beichiogrwydd a genedigaeth plentyn fod yn emosiynol heriol i nifer o rieni. Mae amrywiaeth o wasanaethau all eich cefnogi:
Cymorth fesul Wythnos
Mae gwefannau Galw Iechyd Cymru a Bump, Baby & Beyond yn cynnig canllawiau fesul wythnos o ran datblygiad eich babi a’r gofal cyn-geni y gallwch ei ddisgwyl, yn ogystal â llawer o wybodaeth arall.
GIG 111 Cymru - Canllaw Beichiogrwydd
Mae’r National Childbirth Trust (NCT) yn cynnig gwybodaeth a chymorth gyda beichiogrwydd, genedigaeth a bod yn rhiant newydd
Beichiogrwydd - NCT
Rhianta - NCT
Which? Birth Choice eich cefnogi chi i ddeall pa ddewisiadau sydd gennych a'r gofal y gallwch ddisgwyl ei gael yn ystod beichiogrwydd a llafur
Which? Birth Choice
Cymorth Lles Emosiynol
Mae cael babi yn achlysur pwysig, ac mae’n naturiol i brofi amrywiaeth o emosiynau ac adweithiau yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd. Ond os yw’r babi yn dechrau cael effaith fawr ar sut rydych yn byw eich bywyd, efallai eich bod yn cael problem iechyd meddwl.
Bydd tua un o bob pum merch yn cael problem iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd neu yn ystod y flwyddyn gyntaf ar ôl rhoi genedigaeth, ac mae astudiaethau ar iselder ôl-enedigaeth ymysg tadau yn awgrymu bod un o bob pum dyn yn cael iselder ar ôl dod yn dad.
Mind
Mae Mind yn esbonio iselder ôl-enedigaeth a phroblemau iechyd meddwl amenedigol eraill, gan gynnwys achosion posibl, ffynonellau triniaeth a chymorth, a chyngor i ffrindiau a theulu. Mae gan y wefan hefyd restr o gysylltiadau defnyddiol i unrhyw un sy’n cael neu'n cefnogi rhywun â phroblemau iechyd meddwl.
Mind - Cymorth Cyn / Ôl Enedigaeth
NCT
Mae gan NCT amrywiaeth o wybodaeth ar emosiynau a iechyd meddwl yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd, gan gynnwys cyngor i famau a thadau, gwybodaeth a chymorth ar gyfer iselder a ffyrdd o ddelio â straen perthynas yn ogystal â mynd i’r afael â phroblemau.
NCT - Cymorth Cyn / Ol Enedigaeth
Cymorth Perthynas i Rieni Newydd
Relate yw darparwr cymorth perthnasau mwyaf y DU, a bob blwyddyn yn helpu dros filiwn o bobl o bob oed, cefndir a chyfeiriadedd rhywiol i gryfhau eu perthnasau.
Mae tudalennau gwybodaeth penodol yn cynnig cymorth perthnasau i rieni newydd:
Cymorth Rhieni Newydd - Relate
Dechrau'n Deg
Mae’r rhaglen Dechrau’n Deg yn cefnogi teuluoedd i roi dechrau gwell mewn bywyd i blant. Mae’r rhaglen ar gael mewn ardaloedd penodol o’r Barri ac yn cynnig gofal plant, cymorth rhianta, iaith a chwarae, ymweliadau iechyd a bydwreigiaeth.
Dysgwch a ydych yn byw yn yr ardal drwy fynd i’w gwefan:
Dechrau'n Deg